Cysylltiadau DU
Mae rhai agweddau o’r cyfleoedd a’r gwasanaethau sydd yn effeithio ar blant ac oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru yn cael eu dylanwadu gan y Cynulliad, caiff eraill eu dylanwadu gan adrannau Llywodraeth y DU.
Mae gan yr adrannau hyn rai cyfrifoldebau ‘heb eu datganoli’ o hyd yng Nghymru. Roedd ymddiriedolwyr Anabledd Dysgu Cymru yn teimlo ei bod yn bwysig cael cymuned fuddiant sydd yn cysylltu i ddatblygiadau ar lefel Cymru a Lloegr.
Llenwir y gymuned fuddiant hon ar hyn o bryd gan Arc UK.
ARC
Corff aelodaeth DU yw ARC sydd yn cefnogi darparwyr gwasanaeth i bobl ag anableddau dysgu. Mae aelodau ARC yn darparu amrediad eang o wasanaethau – addysg a hyfforddiant, cyflogaeth gyda chefnogaeth, gwyliau arbenigol, gofal seibiant a phreswyl a chefnogaeth i bobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Daw aelodau ARC o’r 3 sector – gwirfoddol, statudol a phreifat.
Mae ARC yn gweithio i gynyddu annibyniaeth, cynhwysiad a lles defnyddwyr gwasanaeth ag anableddau dysgu trwy:
- Hyrwyddo ymarfer gorau mewn gwasanaethau
- Darparu gwybodaeth a chefnogaeth i aelodau
- Ymgyrchu ar ran aelodau
Mae ARC yn credu fod amrywiaeth darpariaeth yn hanfodol os ydym i gyflawni rhagoriaeth i bobl ag anableddau dysgu.
ARC ac Anabledd Dysgu Cymru
Gan ei fod yn gorff DU, mae ARC yn gallu defnyddio ei rwydweithiau sefydledig i ddarparu persbectif pedair gwlad ar amrediad eang o faterion anabledd dysgu. Mae ARC yn casglu enghreifftiau o ymarfer da a mentrau arloesol o’r Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru yn ogystal â golwg cymharol ar ddatblygiadau polisi o’r DU ac Ewrop. I Anabledd Dysgu Cymru a’i aelodau, mae hyn yn golygu y gall ARC gyfrannu golwg ar yr arena ehangach ac ar y materion traws adrannol yn nes at gartref.
ARC Cymru
Mae ARC Cymru yn cynrychioli darparwyr gwasanaeth anabledd dysgu ar draws Cymru. Yn ogystal ag elwa oddi wrth y nifer o wasanaethau a ddarperir gan ARC UK gall darparwyr gwasanaeth yng Nghymru gael gafael ar wasanaethau penodol fel yr e-fwletin wythnosol. Mae’r e-fwletin yn hysbysu aelodau am y diweddaraf mewn gofynion rheoleiddiol neu statudol yn ogystal â darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am amrediad eang o faterion gweithrediadol a materion defnyddwyr gwasanaeth. Cynhelir cyfarfodydd cangen reolaidd sydd yn ddiweddar wedi trafod pynciau fel marwolaeth a phrofedigaeth, rhywioldeb, mynediad i ofal eilaidd a chynllunio wedi’i ganoli ar y person.
Mae gennym hefyd bartneriaeth hyfforddi sydd wedi datblygu rhaglen o hyfforddiant ar y cyd i gyrff sydd yn aelodau yn Ne Ddwyrain Cymru. Yn ddiweddar mae’r Bartneriaeth Hyfforddi wedi datblygu fframwaith anwytho i reolwyr newydd a phecyn ‘Hyfforddiant i Hyfforddwyr’ i helpu cyrff i fagu eu hyfforddwyr eu hunain.
Gall aelodau ARC yn Nghymru hefyd elwa o brosiectau penodol i Gymru. Ein prosiectau cyfredol yw: Cefnogaeth Weithredol, sydd yn darparu hyfforddiant am ddim i gyrff yn y model o gefnogaeth hwn i gynyddu cyfranogiad pobl ag anableddau dysgu dwys mewn bywyd bob dydd. Our Good Health/Ein Iechyd Da, sydd yn cynhyrchu adnoddau sydd o fewn cyrraedd pawb am fwyta’n iach i bobl ag anableddau dysgu; a Rhwydwaith Anabledd Dysgu ac Ethnigrwydd Cenedlaethol (Cymru) sydd yn ymestyn y Rhwydwaith NLDE i Gymru. Cawsom ein comisiynu yn ddiweddar gan Lywodraeth y Cynulliad i gynnal ymchwil i’r gefnogaeth a roddir gan staff gofal cymdeithasol pan fydd defnyddwyr gwasanaeth yn mynd i’r ysbyty. Fel llais diduedd rydym hefyd yn gallu cynnig gwasanaeth archwilio cynllunio wedi’i ganoli ar y person i ddarparwyr gwasanaeth ac i awdurdodau lleol.
Beth y mae ARC yn ei wneud dros ei aelodau?
Mae bod yn rhan o ARC yn golygu bod yn rhan o rhywbeth ehangach na gwasanaeth unigol. Mae’n hawdd i ddarparwyr gwasanaeth unigol deimlo’n ynysig ac wedi’u tan gynrychioli yn y sector gofal cymdeithasol mwy. Oherwydd bod ARC yn canolbwyntio’n llwyr ar wasanaethau anabledd dysgu, mae cyrff sydd yn ymuno ag ARC yn cael llais torfol cryfach. Maent yn ymuno hefyd i fanteisio ar nifer o fanteision aelodau:
- Maent yn dod yn rhan o fentrau ymarfer gorau mewn gwasanaethau anabledd dysgu
- Maent yn ymuno ag eraill i ddylanwadu ar feddwl DU. Cymru a llywodraeth leol
- Maent yn cael blaenoriaeth o ran derbyn hyfforddiant sydd wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer gweithlu’r sector anabledd dysgu trwy ein canolfannau heolaeth,NVQ a LDAF
- Maent yn diweddaru ymarfer ac yn siarad trwy’r materion allweddol yng nghynadleddau, seminarau a grwpiau buddiant arbennig ARC
- Maent yn sicrhau eu bod yn cael y newyddion diweddaraf trwy e-fwletin ac e-fforymau cynhwysfawr ARC
- Nhw yw’r cyntaf i glywed am brosiectau a mentrau niferus ARC
- Maent yn defnyddio cyfarfodydd lleol ARC i rannu ymarfer da gyda darparwyr lleol eraill
- Mae ganddynt fynediad i’n gwasanaethau CRP a POVA
- Maent yn derbyn amrediad eang o gyhoeddiadau ARC am brisiau arbennig i aelodau yn unig
- Mae cyngor a chefnogaeth alwad ffôn yn unig i ffwrdd
Prosiectau ARC
Mae gan ARC enw da sefydledig o redeg prosiectau o ansawdd ar amrediad eang o faterion yn ymwneud â phobl ag anableddau dysgu. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys: Mae fy Arian yn Cyfrif, Mae Bancio yn Cyfrif i Mi, Arfogi fy Nghefnogwr, Rheoli Meddyginiaeth, Prosiect Anwytho Cenedlaethol ARC, Trwydded Gofal Ewropeaidd, Ei Dweud Fel AG y Mae, Bancio fy Amser Hefyd, Rhwydweithiau Ein Bywydau (yr Alban) a Hyrwyddo Cyfleoedd ar gyfer Cynhwysiad mewn Gofal Cymdeithasol (POISE)
Cysylltwch â ni
I wybod rhagor am ARC ewch i www.arcuk.org.uk.
I gysylltu ag ARC Cymru, e-bostiwch arc.cymru@arcuk.org.uk,
ffôn 01248 361990 neu ysgrifennwch at ARC Cymru, 3a Mentec,
Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2UP.
I gysylltu â chynrychiolydd ARC ar y pwyllgor rheoli cliciwch yma.




