Hyfforddiant
"Mae hyfforddiant yn ffordd bwysig o newid agweddau, gwella ymarfer ac yn y pen draw, gwella bywydau."
Yn rhy aml, gall pobl ddod o hyfforddiant wedi cael eu hysbrydoli neu eu hannog gan ymagwedd newydd, ac yna cânt eu sugno'i mewn yn ol i'w trefn gwaith dyddiol gan ei chael yn anodd i weithredu'r syniadau y maent wedi eu dysgu.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Anabledd Dysgu Cymru wedi datblygu enw da fel darparydd gwasanaeth hyfforddiant. Ein nod yw darparu rhaglen o hyfforddiant a digwyddiadau sydd yn:
- Hygyrch - yn hawdd i bawb ei ddeall
- Ystyrlon - yn gwneud synnwyr o ran eich bywyd a'ch gwaith
- Defbyddiol - eich ysbrydoli i wneud gwahaniaeth i chi ac i'r rhai yr ydych yn eu cefnogi
Rydym yn arbenigo mewn defnyddio hyfforddwyr a siaradwyr sydd ag arbenigedd a phrofiad go iawn yn eu meysydd perthnasol. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i'r rhai sydd yn defnyddio'n hyfforddiant i gael ysbrydoliaeth ac offer gweithio bywyd go iawn i wneud y newidiadau sydd angen eu gwneud yn eu bywydau ac ymarferion gwaith beunyddiol.
Mae llawer o bobl sydd yn mynychu ein hyfforddiant yn dod yno gyda'r cwestiwn, 'Os gall rhywun arall wneud hyn, yna pam na allaf i?'. Yr ateb yw y gall pob un ohonom ddysgu sgiliau newydd i wella ein bywydau a bywydau pobl eraill ac mae'r adborth a dderbyniwn yn dangos y bydd hyfforddiant da yn newid bywydau.
Yn ogystal â'n rhaglen hyfforddiant craidd, rydym yn cynnig gwasanaeth arbennig o hyfforddiant mewnol wedi'i deilwra yn arbennig ar gyfer cyrff a phrosiectau ledled Cymru.
Mae Anabledd Dysgu Cymru hefyd yn cynnig DIGWYDDIADAU YMGYNGHORI, DIGWYDDIADAU RHANBARTHOL a SEMINARAU yn ogystal â'n CYNHADLEDD FLYNYDDOL.
Os oes gennych unrhyw syniadau ynglyn â’r math o hyfforddiant sydd ei angen ar eich sefydliad chi neu ar awdurdodau lleol, yna siaradwch gyda ni. Ein nod yw creu rhwydwaith o hyfforddwyr gyda syniadau ymarferol sy’n gweithio.
Os oes gennych ymarfer da ac yn credu y gall eraill elwa ohono, gallwn fod o gymorth i chi sicrhau ei fod ar gael i fwy o bobl. Mae hyfforddiant da gyda gogwydd ymarferol yn gweithio - cysylltwch â ni.
Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth hyfforddi ac i wybod mwy am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â ni.
Taflen Hyfforddiant
Rydym wedi cynhyrchu ein Taflen Hyfforddiant cyntaf a fydd yn ymddangos ddwywaith y flwyddyn, ac mae'n cynnwys manylion am yr holl gyrsiau a digwyddiadau am y chwe mis nesaf. I gael copi am ddim ffoniwch Shirley Hendrickson ar 029 2068 1160 nau lawr lwythwch gopi isod.




