Self Advocacy

Hunan Eiriolaeth

Helo, ein henwau yw Cyril Luke a Glayne Walker. Rydym yn gweithio i Bobl yn Gyntaf Caerffili, corff sydd yn darparu hunan eiriolaeth i bobl ag anableddau dysgu.

Rydym yn gweithio yng Nghaerffili ac yn annog pobl ag anableddau dysgu i siarad drostynt eu hunain. Rydym yn cynnal cyfarfodydd yng Nghaerffili gyda phobl i ddarganfod beth y maent ei eisiau o’u bywydau.

Rydym yn gwneud hyn trwy ddefnyddio Cynllunio wedi’i Ganoli ar y Person ac rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn Cyfarfodydd Cynllunio fel: y grwp Cynllunio Strategol (mae gennym 3 aelod arno) a grwpiau eraill fel Cyfleoedd Dydd, Llety a Safonau Eiriolaeth.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Cymdeithas Cyrff Gwirfoddol Gwent (GAVO) lle mae ein Hymgynghorydd yn Aelod Gweithredol.

Mae ein haelodau yn cymryd rhan mewn cynadleddau lle maent yn rhoi cyflwyniadau ar Gynllunio wedi’i Ganoli ar y Person, Cyfweliadau, Llety a ffordd o fyw. Mae 2 o’n haelodau hefyd yn gwasanaethu ar y Grwp Ymgynghorol Gweithredu Anabledd Dysgu. Mae’r grwp hwn yn cynghori Llywodraeth y Cynulliad ar faterion yn ymwneud â phobl ag anableddau dysgu.

Mae ein cadeirydd, Glayne Walker yn gadeirydd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan hefyd a gyda Cyril Walker mae’n ymddiriedolwr Grwp Rheoli Anabledd Dysgu Cymru. Y llynedd cymerodd 4 aelod o Pobl yn Gyntaf Caerffili ran mewn adolygiad Cynllun Cydraddoldeb Anabledd y BBC. Mae’r cynllun hwn bellach wedi’i ddiweddaru o ganlyniad i ymgynghori gyda’r aelodau hyn.

Cysylltwch â Pobl yn Gyntaf Caerffili:

Ffôn: 01443 834444

Bargoed YMCA, Aeron Place, Gilfach, Bargoed, Caerffili, CF81 8JA

E-bost: