Vale People First

Prosiectau

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi nifer o wahanol brosiectau ar hyd a lled Cymru, yn darparu gwasanaethau arloesol a safonol i bobl ag anabledd dysgu.

Mae ein prosiectau yn delio â sawl mater pwysig sy'n effeithio ar fywydau pobl, gan gynnwys eiriolaeth, hamdden, dewisiadau bywyd a chynllunio wedi ei ganoli ar y person.

Mae ein prosiectau i gyd yn bwysig gan eu bod yn cynnig gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu yn eu cymuned. Maent yn sialens bositif i ddiwylliannau a systemau heddiw i greu gwell dewisiadau ac maent yn rhan o adnodd gwerthfawr i gynhyrchu ffyrdd newydd o weithio.

Edrychwch trwy'r adran hon i gael gwybodaeth am ein gwahanol brosiectau a sut y gallant fod o gymorth i chi.

Os hoffech siarad gyda ni am unrhyw un o'r prosiectau, yna cysylltwch â ni.