Rhieni a Gofalwyr
Fforwm Cymru Gyfan o Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu (FfCG)
Rydym ni yn Fforwm Cymru Gyfan wedi bod yn weithgar bellach ers dros ugain mlynedd, gan weithio ledled Cymru ar ran rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu – adran o’r gymuned sydd yn rhy aml yn cael ei hanghofio a’i diystyru. Mewn gwirionedd, ni yw’r unig gorff Anableddau Dysgu Cymru gyfan sy’n cael ei redeg gan rieni a gofalwyr ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Ein nod yw diogelu hawliau dynol pobl ag Anableddau Dysgu a’u rhieni a’u gofalwyr trwy:
- Cynrychioli rhieni a gofalwyr;
- Nodi materion perthnasol i Gymru gyfan;
- Grymuso rhieni a gofalwyr i delio’n effeithiol gyda phob awdurdod a chorff sydd yn ymwneud â darparu gwasanaethau i bobl ag Anableddau Dysgu;
- Gweithio gyda chyrff eraill i gyflawni ymagwedd Cymru-un-llais.
Credwn fod y cysyniad o i) Hawliau Dynol a ii) Grymuso yn hanfodol i’r gwaith a wnawn ar gyfer rhieni a gofalwyr. Mae cyllidebau Awdurdodau Lleol yn cael eu gwasgu ac mae materion Anableddau Dysgu mewn perygl mawr o lithro i lawr blaenoriaethau llywodraeth genedlaethol a lleol. Ac felly mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru a chyda chyrff eraill o’r un feddylfryd i siarad gydag un llais ar faterion o fudd cyffredin ac i fod yn ddylanwad grymus yn hyrwyddo hawliau plant ac oedolion gydag anabledd dysgu, yn ogystal â’u rhieni a’u gofalwyr.
Rydym yn ceisio cynnal cysylltiadau gyda grwpiau rhieni a gofalwyr ledled Cymru fel ein bod yn ymwybodol o’r materion sydd yn creu pryder i rieni a gofalwyr ac yn gwneud cynrychioliadau ar lefel Llywodraeth y Cynulliad ac Awdurdod Lleol ar eu rhan. Ymysg ein blaenoriaethau ar hyn o bryd y mae:
- Pontio (ar bob cam);
- Gofal seibiant
- Rhieni/gofalwyr hyn.
Ar hyn o bryd mae dau ymddiriedolwr Fforwm Cymru Gyfan yn ymddiriedolwyr Anabledd Dysgu Cymru hefyd, sef:
Yn ystod y misoedd nesaf rydym yn bwriadu cynnal cyfres o gyfarfodydd casglu a rhannu gwybodaeth ledled Cymru. Bydd manylion am y rhain yn ymddangos ar wefan Anabledd Dysgu Cymru cyn bo hir. Ar hyn o bryd mae gwefan Fforwm Cymru Gyfan yn cael ei chreu a bydd ar gael cyn hir – cadwch olwg amdani.
Hyd nes y bydd ein gwefan yn weithredol gallwch gysylltu â Fforwm Cymru Gyfan yn 78A Oxford Street, ABERPENNAR CF45 3HB. Ffôn 01443477795
Ein tîm yno yw Elis Jones a Kate Ellington-Lewis:




