All Wales Community Living Network
Helo a chroeso i dudalennau Rhwydwaith Byw yn y Gymuned Cymru Gyfan.
Mae ein Rhwydwaith yn bodoli i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i dyfu i’r holl bobl sydd ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yng Nghymru. Dylai hyn ddigwydd mewn ffordd sydd yn helpu pobl i ddatblygu fel unigolion ac ar yr un pryd bod yn ddiogel yn eu cartref ac yn eu cymuned.
Nod ein Rhwydwaith yw hyrwyddo amrediad eang o wasanaethau o ansawdd i bobl a’u teuluoedd sydd yn:
- Seiliedig ar y ‘model cymdeithasol’ o anabledd ac egwyddorion unigolyddol a chynhwysiant
- Parhau i wella trwy fonitro ac ymchwil
- Datblygu a gwella oherwydd barn defnyddwyr gwasanaeth a’u heiriolwyr
- Cael eu darparu gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda a staff gyda chymhelliant
- Cael eu comisiynu a’u cyllido fel eu bod yn sefydlog am cyn hired ag y maent eu hangen
- Cydweithio a rhannu gwybodaeth gyda’i gilydd am syniadau newydd sydd yn gwella gwasanaethau
- Cyflogwyr da i staff
Rydym hefyd yn bodoli i helpu pobl a’u teuluoedd, asiantaethau darparwyr, comisiynwyr gwasanaeth a rheoleiddwyr gwasanaethau i ddarganfod gwell ffyrdd o gydweithio mewn partneriaeth agored a chydweithredol sydd yn hyrwyddo hawliau a chyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae ein rhwydwaith yn gweithio trwy gytuno ar raglen waith bob blwyddyn sydd â nifer o themâu allweddol, dros y flwyddyn nesaf byddwn yn edrych ar themâu yn cynnwys:
- Y Gyfarwyddeb Amser Gweithio
- Cydymffurfio â rheoliadau Safonau Gofal
- Datblygu Deddfwriaeth a Chyfraith Achos
- Ymarfer gorau mewn gofal a chefnogaeth
- Ymarfer Gorau mewn rheolaeth tai
- Canfyddiadau Ymchwil
- Gwasanaethau wedi’u hunan gyfeirio
- Defnyddio technoleg i gynyddu annibyniaeth
- Gwneud y mwyaf o gysylltiadau a datblygu cymunedau
- Comisiynu ar gyfer ymarfer gorau
Ar hyn o bryd, rydym yn creu ein gwefannau bach ein hunain, lle bydd y materion hyn yn cael eu trafod. Pan fyddant yn barod, bydd y dolenni yn ymddangos uchod. Yn y cyfamser, gallwch weld y gwaith rydym yn ei wneud ar y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith.
Ar ein tudalennau yr ydym eisiau i chi:
- Ddarganfod gwybodaeth am enghreifftiau o ymarfer da o Gymru a thu hwnt
- Cymryd rhan mewn trafodaethau gweithredol am sut y gallwn ymrymuso gwasanaethau a’u gwneud yn fwy effeithiol
- Cael newyddion am ddigwyddiadau yng Nghymru i aelodau’r Rhwydwaith
- Newid a datblygu gwaith ein Rhwydwaith fel ei fod yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i wasanaethau ar draws Cymru.
Bydd ein Rhwydwaith yn llwyddiant os byddwn i gyd yn cymryd rhan i wneud y mwyaf o’r tudalennau hyn, trwy rannu gwybodaeth a chydweithio; edrychwn ymlaen i glywed oddi wrthych.
Manylion Cyswllt
Adrian Roper – Chairperson adrian.roper@cartreficymru.org
Rick Wilson – Vice-chair person rick@communitylives.co.uk




