Rhwydweithiau a Chymunedau o Ddiddordeb
Croeso i adran aelodaeth ein gwefan. Anabledd Dysgu Cymru yw’r corff ambarél ar gyfer pob corff gwirfoddol yng Nghymru sydd yn weithredol ym maes anableddau dysgu. Rydym yn falch o’r cyfraniadau mawr y mae ein haelodau yn eu gwneud i hyrwyddo hawliau plant ac oedolion ag anabledd dysgu ac i gynorthwyo ym mhob agwedd o’u bywyd yn unigol. Mae ein haelodau yn dwyn ymroddiad, ynni, arbenigedd ac angerdd i’w gwaith. Maent yn weithgar ym mhob cymuned yng Nghymru ac yn amrywiol iawn o ran maint, strwythur a chenhadaeth.
Undod
Yr hyn sydd yn uno ein haelodau yw ymrwymiad i hyrwyddo tair egwyddor Strategaeth Anabledd Dysgu Cymru a chefnogi Siarter Anabledd Dysgu Cymru o Hawliau Unigol i bobl ag anableddau dysgu.
Llais Grymus
Mae aelodaeth o Anabledd Dysgu Cymru yn galluogi cyrff a grwpiau’r sector gwirfoddol i siarad ag un llais ar faterion o ddiddordeb cyffredin ac i fod yn ddylanwad grymus yn hyrwyddo hawliau plant ac oedolion ag anabledd dysgu.
Atebolrwydd a Rheolaeth Anabledd Dysgu Cymru
Er mwyn siarad ag awdurdod a hygrededd dros y sector gwirfoddol,
mae’n hanfodol fod gan Anabledd Dysgu Cymru linellau dealltwriaeth
a chyfathrebu clir a chryf gydag aelodau. Mae Anabledd Dysgu Cymru
yn elusen cofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig gan warant. Ers ei greu
ym 1984, rydym wedi cael ein harwain gan bwyllgor rheoli o ymddiriedolwyr,
wedi’u hethol gan gyrff sydd yn aelodau.
Mae ein hymddiriedolwyr wedi cymryd camau sylweddol i gryfhau ‘llywodraethu’
y corff a llinellau atebolrwydd a chyfathrebu. Mae’r rhain yn
cynnwys:
- Creu 8 cymuned fuddiant o fewn ein haelodaeth a newid ffurf y pwyllgor rheoli fel bod 11 allan o gyfanswm o 16 ymddiriedolwr yn cael eu hethol gan gyrff sydd yn aelodau o fewn ‘cymuned fuddiant’.
- Ei gwneud yn ofynnol bod yr 11 ymddiriedolwr yn cynrychioli ac yn adrodd ar eu gwaith fel ymddiriedolwyr i’r cyrff hynny sydd yn aelodau yn y ‘gymuned fuddiant’
- Sicrhau y gall y cyrff hynny sydd yn aelodau nad ydynt yn ffitio i gymuned fuddiant yn gallu parhau i enwebu cynrychiolwyr ar un o’r pum sedd ymddiriedolwyr.
- Diffinio a strwythuro cyfrifoldebau ymddiriedolwyr yn unol â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymddiriedolwyr ac aelodau Pwyllgor Rheoli yn y sector gwirfoddol a chymunedol. (U.K. Workforce Hub, Ebrill 2006)
Cymunedau buddiant
Y cymunedau buddiant etholedig yw:
- Cyrff Darparwyr Plant
- Cyrff darparwyr Cefnogaeth Teulu
- Cyrff Rhieni a Gofalwyr
- Cyrff Darparwyr Oedolion
- Asiantaethau Cyflogaeth gyda Chefnogaeth a Hyfforddiant Galwedigaethol
- Cyrff Hunan Eiriolaeth
- Cyrff Eiriolaeth y Dinesydd
- Cysylltiadau DU
Yma yn y rhan hwn o’r wefan mae tudalennau wedi’u neilltuo ar gyfer pob un o’n cymunedau buddiant. Gallwch ddarganfod:
- Gwybodaeth am yr ymddiriedolwr sydd yn cynrychioli eich cymuned fuddiant, eu henwau a manylion cyswllt, eu corff.
- Cyrff eraill sy’n aelodau yn eich cymuned fuddiant.
- Datblygiadau pwysig sydd yn berthnasol i’ch cymuned fuddiant, pynciau llosg.
- Beth y mae’r gymuned fuddiant yn dymuno i Anabledd Dysgu Cymru ei wneud.
Rhwydweithiau
I ddiwallu eu hanghenion unigol mae rhai o’r cyrff sy’n
aelodau wedi datblygu rhwydweithiau o strwythur/corff mwy ffurfiol
o fewn y cymunedau buddiant. Mae’r rhain yn amrywio cryn dipyn
o ran ffurf, strwythur, diben, gwasanaeth a darpariaeth. Mae bodolaeth
y rhwydweithiau/strwythurau/cyrff hyn wedi darparu llwybr delfrydol
ar gyfer Ymddiriedolwyr Anabledd Dysgu sydd yn cynrychioli cymuned
fuddiant i gael llinell gyfrifoldeb/atebolrwydd gyda’u cymuned.
Y rhwydweithiau/cyrff/strwythuredig ffurfiol a enwyd yw:
- Cyrff Darparwyr Plant – Grwp Polisi Plant Anabl
- Cyrff Darparwyr Cefnogaeth Teulu – Cynghrair Gofalwyr Cymru
- Cyrff Rhieni a Gofalwyr – Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan
- Cyrff Darparwyr Oedolion –Rhwydwaith Byw yn y Gymuned Cymru
- Cyflogaeth gyda Chefnogaeth a Hyfforddiant Galwedigaethol – Asiantaethau Cymdeithas Cymru Gyflogaeth gyda Chefnogaeth.
- Cyrff Hunan Eiriolaeth – Pobl yn Gyntaf Cymru
- Cyrff Eiriolaeth y Dinesydd– Rhwydwaith Eiriolaeth Cymru Gyfan
- Cyrff gyda chysylltiadau sylweddol yn y DU – Cymdeithas dros Newid Go Iawn (ARC)
O’r rhwydweithiau hyn mae’r rhain yn cael eu hwyluso
gan Anabledd Dysgu Cymru a gallwch ddarganfod gwybodaeth amdanynt
yn yr adran hon.
- Rhwydwaith Byw yn y Gymuned Cymru
Gyfan
- Cymdeithas Cymru o
Asiantaethau Cyflogaeth gyda Chefnogaeth
- Rhwydwaith Eiriolaeth Cymru Gyfan
Mae Anabledd Dysgu Cymru hefyd yn hwyluso rhwydwaith Cynllunio wedi’i Ganoli ar y Person. Cliciwch yma am wybodaeth.
Am wybodaeth am rwydweithiau nad ydynt yn cael eu hwyluso gan Anabledd Dysgu Cymru cliciwch ar y cysylltiadau uchod. Am ragor o wybodaeth Cysylltwch â Ni os gwelwch yn dda.
Ar hyn o bryd nid oes gan ddau rwydwaith (Cynghrair Gofalwyr Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan) wefannau. Am wybodaeth am y rhain cysylltwch os gwelwch yn dda â:
Cynghrair Gofalwyr Cymru: Ros Williamson, Ysgrifennydd Cynghrair Gofalwyr Cymru, D/O Gofalwyr Cymru, River House, Ynsbridge Court, Gwaelod-y-Garth, Caerdydd, CF15 9SS, Ffôn 02920 811370, e-bost
Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan: Ellis Jones, 78a Oxford St,
Aberpennar, CF45 3HB. Ffôn 01443 477795, e-bost




