Eiriolaeth y Dinesydd
Ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth 2001, Gwerthfawrogi Pobl, cafodd pwysigrwydd eiriolaeth mewn helpu pobl i gael rheolaeth ei gydnabod. ‘Gall eiriolaeth effeithiol drawsnewid bywydau pobl ag anableddau dysgu trwy eu galluogi i fynegi eu dymuniadau a’u dyheadau a gwneud dewisiadau go iawn,’ a dyna pam y mae Anabledd Dysgu Cymru yn teimlo ei bod yn bwysig gweithio gyda chyrff eiriolaeth ledled Cymru fel rhan o’r rhwydwaith rhannu gwybodaeth.
Mae Eiriolaeth y Dinesydd yn ymwneud â dinasyddiaeth weithredol unigol, lle mae un aelod o’r gymuned yn gwneud ymrwymiad i hawliau person arall sydd dan anfantais ac/neu wedi’i eithrio’n gymdeithasol. Gall yr ymrwymiad hwn gael ei gyfyngu yn ôl amser a chynorthwyo person gyda mater neilltuol neu gall fod yn ymrwymiad tymor hirach lle mae perthynas eiriolaeth yn datblygu. Mae Eiriolwyr Dinasyddion yn chwarae rôl hanfodol mewn hwyluso gallu unigolyn i gael gafael ar amrediad cyfan o gyngor, gwybodaeth a chefnogaeth gymunedol. Gall hyn gynnwys cael gafael ar ffurfiau eraill o eiriolaeth, er enghraifft gan gyfreithiwr.
Nid yw Eiriolwyr Dinasyddion yn rhoi cyngor. Eu gwaith yw darparu cefnogaeth annibynnol, yn rhydd o wrthdaro fel bod yr unigolyn yn gallu cael cyngor a chefnogaeth. Trwy gynorthwyo eu Partner fel hyn maent yn gweithio i hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Un o brif nodau partneriaethau tymor hirach yw ymladd yn erbyn gwahaniaethu ac eithrio cymdeithasol y mae’r Partner Eiriolaeth yn eu wynebu.
Mae amrediad o grwpiau yn cyflawni Eiriolaeth y Dinesydd ar draws y wlad ac maent yn recriwtio ac yn paratoi Eiriolwyr Dinasyddion gwirfoddol ac yn eu cysylltu â Phartneriaid Eiriolaeth y maent wedi’u nodi fel rhai sydd eu hangen. Mae Eiriolydd Dinesydd yn dod yn ffrind ac yn adeiladu perthynas o ymddiriedaeth gyda’u partner ac yna gall siarad drostynt – fel p baent yn bartner ar faterion yn berthynol i fywyd y partner. Fel reol un Partner Eiriolaeth fydd gan yr Eiriolydd Dinesydd.
Nid ydym wedi llenwi’r swydd o ymddiriedolwr ar gyfer Eiriolaeth y Dinesydd. Os oes gennych brofiad da yn y maes hwn ac os hoffech chwarae rhan mewn datblygu’r agenda eiriolaeth y dinesydd trwy gyfrwng Anabledd Dysgu Cymru, yna cysylltwch â ni ynglyn â dod yn aelod o’n pwyllgor rheoli.




