Ymaelodi

Pam ymuno ag Anabledd Dysgu Cymru?

Os ydych yn gorff gwirfoddol neu yn unigolyn mae gennym ystod eang o wasanaethau sydd o gymorth i chi ac yn cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf i chi ar faterion anabledd dysgu, gan gynnwys:

  • Cyhoeddiadau rheolaidd, hawdd eu defnyddio yn llawn gwybodaeth
  • Gwasanaeth Gwybodaeth
  • Bas data eang o gysylltiadau
  • Hyfforddiant, cynadleddau a seminarau rheolaidd o amgylch Cymru gyda gostyngiad i aelodau
  • Gwaith polisi ac ymgyrchu i gynrychioli eich barn a'ch pryderon
  • Gwaith ymchwil ac ymgynghori i helpu arfer gwell

Fel aelod mae gennych fynediad blaenoriaethol i'r gwasanaethau hyn. Cysylltwch â ni i holi am ffurflen ymaelodi.

Aelodau llawn

  • Mae aelodaeth lawn o Anabledd Dysgu Cymru ar gyfer cyrff anstatudol yn gweithio yng Nghymru sydd yn cefnogi ein nod ac amcanion ac sy'n rhannu ein hymroddiad i "Siartr o Hawliau Unigol ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu";
  • Gall cyrff fod yn ymgorfforedig neu beidio;
  • Mae gan aelodau llawn yr hawl i bleidleisio yn ein cyfarfod blynyddol cyffredinol ac i enwebu cynrychiolydd ar ein Pwyllgor Rheoli.

Aelodau Cyswllt

Os ydych yn gweithio yn y gwasanaethau, yn rhiant neu ofalwr, yn berson ag anabledd dysgu, neu a diddordeb yn y pwnc yna gofynnwn i chi ymaelodi a ni. Mae aelodaeth gyswllt i Anabledd Dysgu Cymru ar gael i unigolion sydd yn cefnogi ein nod ac amcanion ac sydd yn rhannu ein hymroddiad i "Siartr Hawliau Unigol ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu".

Cyfraddau

Mae ein tal aelodaeth yn dangos gwerth am arian gwych. Mae'r cyfraddau yn cael eu pennu i adlewyrchu'ch gallu i dalu. Mae ein blwyddyn aelodaeth a thanysgrifio yn rhedeg o Ebrill 1af - 31ain Mawrth.

Aelodaeth llawn
Cyrff gydag incwm blynyddol o: Ffi
Dan £10,000 £15
£10,001 to £50,000 £25
£50,001 to £150,000 £45
Dros £150,000 £65
Mae aelodaeth yn cynnwys un set o gyhoeddiadau - Llais (chwarterol dwyieithog) a Llais Update (misol, ar wahân i Ragfyr, yn Saesneg yn unig). Gallwch brynu setiau ychwanegol am gost o £10 yr un.
Aelodaeth gyswllt
Cyflogedig £15
Di-waith £20

Tanysgrifio neu ymaelodi?

Gall unigolion sy'n gweithio yn y sector statudol ystyried aelodaeth Cyswllt/Unigol fel ffordd ratach o dderbyn Llais a Llais Update ac ystod o fanteision eraill.

Cysylltwch â ni i holi am ffurflen ymaelodi.