Amdanom Ni

Ein Cenhadaeth:

"Creu Cymru sy’n gwerthfawrogi a chynnwys pob plentyn ac oedolyn gydag anabledd dysgu"

Gwerthoedd:

Mae ein gwaith yn seiliedig ar ymrwymiad cadarn i set penodol o werthoedd, sef:

  • Cymuned, empathi, cydraddoldeb, rhyddid, dyngarwch, hunaniaeth, arloesi, cyfiawnder, hunan herio, gwaith tim strategol, cynhwysedd

Egwyddorion:

  • yr hawl i batrwm bywyd cyffredin o fewn y gymuned.
  • yr hawl i gael eu trin fel unigolion.
  • yr hawl i help a chefnogaeth ychwanegol i ddatblygu eu llawn botensial.
  • yr hawl i gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau a chynllunio gwasanaeth.

Nodau:

Mae gennym bum nod trefnyddol sydd yn arwain ein gwaith:

  • Lleihau anghyfiawnder, gwahaniaethu a rhagfarn y mae plant ac oedolion ag anableddau dysgu yn eu profi
  • Cynyddu ac ymestyn cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad gweithredol ac ystyrlon plant ac oedolion ag anabledd dysgu ym mhob agwedd o’u bywydau a chymuned
  • Cynyddu ymrwymiad i hawliau a materion plant ac oedolion ag anableddau dysgu
  • Cynyddu amrywiaeth ac ansawdd ymatebion gwasanaethau i adlewyrchu hunaniaeth plant ac oedolion ag anableddau dysgu
  • Cynnal a gwella atebolrwydd, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, cynaladwyedd ariannol a llywodraethu y corff er mwyn cynnal ei werthoedd a chyflawni ei genhadaeth a'i nodau

Sut yr ydym yn gweithio:

  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill, defnyddwyr gwasanaeth a'u rhieni/gofalwyr
  • Rydym yn ymgyrchu i helpu plant ac oedolion ag anableddau dysgu i fyw bywyd gwerthfawr
  • Rydym yn cefnogi'r sector gwirfoddolo a'i fuddiannau
  • Rydym yn darparu ac yn hyrwyddo ymarfer da

Ein cynlluniau ar gyfer 2007 - 2010

Llwybr Anabledd Dysgu Cymru

Rydym wedi defnyddio un o offerynnau Cynllunio wedi’i Ganoli ar y person i greu cynllun yn amlinellu sut yr hoffem weld ein corff yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf.

Lawr lwythwch ein Llwybr

Lawr lwythwch ein Cynllun Strategol cyfredol

Ein Cynlluniau ar gyfer 2008 - 2011

Cynllun Busnes

Cynllun Strategol

Classroom photo

Our Members

We continue to be the strong collective voluntary sector voice promoting the progressive policies for children and adults with learning disabilities that was established by the 1983 All Wales Strategy. Our voice is respected and listened to.

Our strength is our membership of voluntary organisations, representing an extremely diverse range of activities, size and area of operation.